Mae'ch gwefan yn dweud "nid yw'n ddiogel" am nad ydy'r porwr yn gallu cadarnhau cysylltiad diogel, wedi'i amgryptio, iddi. Fel arfer mae hynny'n golygu nad oes gan y wefan dystysgrif SSL, bod y dystysgrif wedi dod i ben, neu fod rhywfaint o'r dudalen yn dal i lwytho dros yr hen gysylltiad ansicr. Mae'n atgyweiriad sydyn fel arfer, ac mae'n werth ei wneud heddiw.
Be mae'r rhybudd yn ei olygu go iawn
Mae cyfeiriad gwefan ddiogel yn dechrau efo https, ac mae'r porwr yn dangos clo clap neu eicon gosodiadau wrth ei ymyl. Mae hynny'n golygu bod popeth sy'n cael ei anfon rhwng yr ymwelydd a'ch gwefan, fel ffurflen gysylltu, wedi'i amgryptio.
Pan nad ydy'r porwr yn gallu cadarnhau hynny, mae Chrome, Safari a'r lleill yn dangos "Nid yw'n ddiogel", neu mewn achosion gwael rybudd tudalen lawn yn dweud wrth bobl am fynd yn ôl. Mae Chrome wedi marcio pob tudalen http blaen fel "nid yw'n ddiogel" ers 2018.
Pam mae'n bwysig i fusnes bach
- Mae pobl yn gadael. Mae rhybudd wrth ymyl eich enw yn ddigon i lawer o ymwelwyr fynd yn ôl a dewis rhywun arall.
- Mae ffurflenni'n agored. Mae unrhyw beth sy'n cael ei deipio i'ch ffurflen gysylltu'n teithio heb ei amgryptio.
- Mae'n well gan Google wefannau diogel. Mae HTTPS yn rhan o arwyddion profiad tudalen Google.
Y pedwar achos arferol, a'r atgyweiriad i bob un
1. Does dim tystysgrif SSL
Does gan y wefan erioed un, felly dim ond dros http mae'n gweithio.
Trwsio: gofynnwch i'ch gwe-letywr droi SSL ymlaen. Mae'r rhan fwyaf o we-letywyr bellach yn rhoi tystysgrifau am ddim gan Let's Encrypt sy'n adnewyddu'n awtomatig. Yn cPanel, mae fel arfer o dan "SSL/TLS Status" neu "AutoSSL". Ar Wix a Squarespace, mae wedi'i gynnwys ac yn cael ei droi ymlaen yn y gosodiadau.
2. Mae'r dystysgrif wedi dod i ben
Mae tystysgrifau'n para am gyfnod penodol ac yn gorfod adnewyddu. Os methodd yr adnewyddu awtomatig, neu fod rhywun yn ei adnewyddu â llaw ac wedi anghofio, mae'r wefan yn mynd o ddiogel i rybudd dros nos.
Trwsio: gwiriwch efo'ch gwe-letywr pam na wnaeth adnewyddu, adnewyddwch hi, a gwneud yn siŵr bod adnewyddu awtomatig ymlaen. Cliciwch yr eicon wrth ymyl y cyfeiriad yn eich porwr i weld dyddiad dod i ben y dystysgrif.
3. Mae'r wefan yn llwytho dros http a https
Mae'r dystysgrif yn gweithio, ond mae ymwelwyr sy'n teipio'ch cyfeiriad, neu'n dilyn hen ddolen, yn glanio ar y fersiwn http.
Trwsio: gosodwch ailgyfeiriad fel bod pob cyfeiriad http yn mynd i https yn awtomatig. Gall eich gwe-letywr wneud hyn, neu ar WordPress mae gosodiadau ac ategion ar ei gyfer.
4. "Cynnwys cymysg"
Mae'r dudalen ei hun yn https, ond mae llun, sgript neu ffont arni'n dal i lwytho dros http. Mae'r porwr yn gollwng y clo clap.
Trwsio: dewch o hyd i'r dolenni http yn eich tudalennau (hen luniau neu gynnwys wedi'i fewnosod yn aml) a'u newid i https. Ar WordPress, mae chwilio ac amnewid ar eich hen gyfeiriad http fel arfer yn ei sortio.
Pethau eraill all ei achosi
- Mae'r dystysgrif ar gyfer yr enw anghywir. Mae'n cwmpasu eichbusnes.co.uk ond nid www.eichbusnes.co.uk, neu fel arall.
- Cafodd y wefan ei symud i we-letywr newydd, a ddaeth y dystysgrif ddim efo hi.
Gwiriad sydyn. Ewch i'ch gwefan drwy deipio dim ond eich parth, heb https na www, ar eich ffôn ac ar gyfrifiadur. Os welwch chi "nid yw'n ddiogel" ar y naill neu'r llall, mae un o'r achosion uchod yn berthnasol.
Ei atal rhag digwydd eto
- Gwnewch yn siŵr bod tystysgrifau'n adnewyddu'n awtomatig
- Rhowch ddyddiad adnewyddu'ch parth yn eich calendr
- Ar ôl unrhyw newid gwe-letywr neu ddatblygwr, gwiriwch y clo clap yr un diwrnod
Os nad ydych chi'n siŵr pwy sy'n edrych ar ôl eich tystysgrif, eich parth neu'ch gwe-letya, mae'n werth darganfod nawr. Dw i wedi ysgrifennu am hynny yn pwy sy'n berchen ar barth fy ngwefan? Ar fy ngwe-letya, mae tystysgrifau'n adnewyddu'n awtomatig ac mi ga i rybudd bythefnos cyn bod un yn dod i ben.
Mae'r gwiriad gwefan am ddim yn edrych ar dystysgrif ddiogelwch, cyflymder a pherfformiad ffôn eich gwefan, ac yn esbonio be mae'n ei ganfod mewn Cymraeg clir.


