Faint o amser mae'n ei gymryd?
Cyn lleied ag wythnos. Wythnos o amser gweithio ydi hynny, wedi'i chyfrif o'r adeg y bydd eich geiriau a'ch lluniau gen i a chithau wedi cymeradwyo'r dyluniad cysyniad. Dydi amser yn aros am gynnwys neu atebion ddim yn cyfrif, felly po gyntaf y dowch chi'n ôl ata i, cyntaf yn y byd y byddwch chi'n fyw. Mae gwefannau mwy a gwaith pwrpasol yn cymryd mwy o amser, ac mi ddyweda i wrthoch chi faint cyn i ni ddechrau.
Ai fi sy'n berchen ar fy ngwefan?
Ie. Mae'r cyfeiriad gwe wedi'i gofrestru yn eich enw chi, a chi biau'r geiriau a'r lluniau. Os byddwch chi'n gadael rywbryd, mi drosglwydda i bopeth i chi.
Beth os na fydda i'n hapus efo hi?
Rydych chi'n gweld dyluniad cysyniad cyn i ddim gael ei adeiladu, a does dim yn mynd yn fyw nes i chi ei gymeradwyo, felly mae digon o gyfle i newid pethau ar hyd y ffordd. A chan mai chi biau'r wefan, y cyfeiriad gwe a'r cynnwys, dydych chi byth yn gaeth i mi.
